Cyfeiriadur Clybiau

Enw'r clwb:

Dawns Anabledd WISP

Gweithgareddau:

Dawns

Aelodaeth:

Parlys Serebral, Byddar / Trwm Eich Clyw, Anabledd Dysgu, Unrhyw Anableddau, Anabledd Corfforol - (Gallu Cerdded/Rhedeg), Amhariad Weledol

Cyfeiriad Clwb:
Glanrafon Centre
Glanrafon Road
Mold
CH7 1PA

Cher Mather 01352 770836


Mae Clwb Dawns WISP ar gyfer pobl ieuainc ag anableddau yng Ngogledd Ddwyrain Cymru. Rydym yn cwrdd yn rheolaidd bob wythnos, yn yr Wyddgrug, i fwynhau a chymryd rhan mewn profiadau dawnsio a symud.  Rydym hefyd yn creu ac yn perfformio ein sioeau dawns ein hunain ac yn rhannu ein llwyfan o berfformiadau dawns gyda grwpiau cymunedol eraill.

Nodau ac Amcanion: 

* Ysbrydoli ac ymestyn galluoedd symud a chryfderau creadigol yr unigolion i gyd

* Perfformio’n lleol mewn perfformiadau integredig pan fo hynny’n briodol, ac annog ymroddiad grŵp

* Darparu amgylchedd cynhwysol a gweithio gyda phartneriaid yn y gwasanaethau addysg a chymdeithasol, fel bod lefel y gefnogaeth yn ddigonol

* Annog ymwybyddiaeth y cyhoedd o Glwb Dawns WISP, a’i fanteision i bobl ieuainc ag anableddau.                

Arweinir y grŵp Dawns gan artistiaid a thiwtoriaid dawns: Cher Mather ac Uma O'Neill.  Mae’n derbyn cefnogaeth gan y gwasanaethau cymdeithasol, adran addysg Sir y Fflint, rhieni ymroddedig, Cyngor Celfyddydau Cymru, CGLlFf a busnesau lleol.  Mae cefnogaeth gyson i’r aelodau’n hanfodol er mwyn sicrhau llwyddiant y grŵp.

Rydym yn anelu at:

* Magu hunanhyder, hunan-barch a lles drwy gyfrwng dawns ymarferol a phrofiadau symud          

* Rhoi llwyfan i hunanfynegiant creadigol      

* Defnyddio rhinweddau therapiwtig nodedig y Celfyddydau

* Datblygu ac ehangu ymwybyddiaeth a lles pob aelod               

* Sicrhau’r safonau uchaf posibl mewn dawns