Cyfeiriadur Clybiau

Enw'r clwb:

Y Rhyfelwyr Celtaidd

Gweithgareddau:

Pêl Fasged, Wheelchair Basketball

Aelodaeth:

Parlys Serebral, Defnyddwyr Cadeiriau Olwyn Ymarferol, Anabledd Corfforol - (Gallu Cerdded/Rhedeg)

Cyfeiriad Clwb:
Canolfan Hamdden Darland
Rossett
Wrecsam
LL12 0DL

Club mobile - 07711 356541, Wrexham Disability Sports Development Officer - Donna Evans 01978 297360

celticwarriorsbasketball@yahoo.co.uk

www.chesterwheelchairjets.org.uk


Y Rhyfelwyr Celtaidd

Gwybodaeth am y Clwb

Y Rhyfelwyr Celtaidd yw’r fersiwn newydd o Jets Cadair Olwyn Caer – gan fod y Jets wedi cael pwyllgor rheoli newydd ac wedi dewis yr enw Jets Cadair Olwyn. Bydd tymor 2007/2008 nid yn unig yn dyst i newid enw ond hefyd bydd y garfan yn chwarae yn ail adran Cynghrair Genedlaethol PF wedi cael dyrchafiad ar ddiwedd tymor 2006/2007.  Mae hefyd yn chwarae nifer o gemau cyfeillgar i roi cyfle i’r aelodau i gyd chwarae gemau.  Mae’r clwb yn denu chwaraewyr o bob cwr o Sir Gaer a Gogledd Cymru ac mae chwaraewyr wedi dod o fannau mor bell â Dulyn hyd yn oed y tymor hwn! 

Yn 2005, rydym wedi symud ac yn ymarfer ac yn chwarae ein gemau i gyd yng Nghanolfan Chwaraeon Darland. Gall pobl gyda a heb anableddau chwarae pêl fasged cadair olwyn – mae ein clwb yn croesawu chwaraewyr o bob oedran a gallu.  Mae rhai yn dod i roi cynnig arni ac rydym yn gwarantu y byddant yn mwynhau.  Mae gennym nifer o gadeiriau olwyn sy’n eiddo i’r clwb ac yn addas ar gyfer pêl fasged, i chi eu defnyddio, a hefyd mae nifer o sefydliadau dyfarnu grantiau’n ein cynorthwyo gyda phrynu cadeiriau ar gyfer y chwaraewyr.

Cynhelir yr ymarfer ar brynhawniau Sadwrn rhwng 12.50pm a 5.00pm yng Nghanolfan Chwaraeon Darland yn Yr Orsedd-Goch, ger Wrecsam. Mae croeso i chwaraewyr a gwylwyr newydd bob amser (cysylltwch â ni cyn i chi ddod draw).               

Mae’r clwb wedi gwneud sawl newid i’w bersonél y tymor hwn ac mae hynny’n mynd i arwain at gyfnod cyffrous iawn yn sicr i’r Rhyfelwyr.                                                          

Mae’r Rhyfelwyr wedi cyflwyno sesiwn hyfforddi newydd yn benodol ar gyfer chwaraewyr o bob oed (6+) – unrhyw anabledd, unrhyw oedran, unrhyw allu.

Mae gennym gadeiriau olwyn y gallwch eu benthyg ar gyfer chwarae pêl fasged, felly cofiwch ddod draw i roi cynnig arni.

Y Rhyfelwyr Celtaidd

Gemau – Tymor 2007/2008

Gemau Cartref

I gyd am 2.30pm yng Nghanolfan Chwaraeon Darland (oni bai y nodir yn wahanol)

Mavericks Manceinion - Sad 23 Chwef

Furness Falcons - Sad 1 Maw

Gorllewin yr Alban - Sul 9 Maw – 12.30pm (y lleoliad wedi’i gadarnhau fel Canolfan Chwaraeon Darland)

Stoke Spitfires - Sad 19 Ebrill

Gemau Oddi Cartref

Jaguars Nottingham - Sad 12 Ion  - 3.20pm

Steelers - Sul 17 Chwef - 11am

Mavericks Manceinion - Sad 15 Maw – 7pm

Dyddiadau ac Amseroedd Hyfforddi – tymor 2007/2008:

Sylwer bod yr amseroedd wedi newid ar gyfer sesiynau hyfforddi’r SADWRN o fis Medi 2007 ymlaen

Y lleoliad ar gyfer yr holl sesiynau yw Ysgol Uwchradd Darland yn Yr Orsedd-Goch.        

Sesiwn iau - 12.50pm - 1.40pm

Sesiwn hyfforddi’r tîm datblygu - 1.40pm - 2.30pm

Sesiwn hyfforddi tîm y Gynghrair - 2.30pm - 4.45 pm