Cyfeiriadur Clybiau

Enw'r clwb:

Clwb Canŵio Iau y Blades

Gweithgareddau:

Canwio

Aelodaeth:

Unrhyw Anableddau

Cyfeiriad Clwb:
Paul Saunders
78 Bryn Eglwes Croesyceiliog
Cwmbran
NP44 2LF

Fairwater Leisure Centre 01633 872 811


Clwb Canŵio Iau y Blades

Ffurfiwyd Clwb Canŵio Iau y Blades gan glybiau ieuenctid St Dials a Chroesyceiliog yn 1994 yn dilyn ceisiadau gan aelodau’r ganolfan ieuenctid am gyflwyno caiacio’n rhan o weithgareddau rhaglen y gwasanaeth ieuenctid. Yr ystod oedran y mae’r clwb yn darparu ar ei gyfer yw 11-16 oed.

Rhoddwyd cefnogaeth ariannol i ddechrau gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen nes bod y clwb yn gallu bod yn hunangynhaliol.  Mae gan y clwb dri hyfforddwr profiadol a chymwys yn awr, yn helpu pobl ieuainc i ddatblygu eu sgiliau yn y gweithgaredd heriol yma, gyda’r nod o fod yn fwy hyderus a medrus mewn caiacio.  Mae’r clwb bellach yn rhan hanfodol o Wasanaeth Ieuenctid Torfaen.

Gyda grant gan Sportlot, llwyddodd y clwb i brynu offer fel rhwyfau llaw chwith, llinellau taflu, citiau cymorth cyntaf dyfrol a chymhorthion arnofio newydd, ac maent i gyd wedi cael eu prynu i ddatblygu’r clwb ymhellach er budd y bobl ieuainc.  O ganlyniad i’r grant ar gyfer offer gan Gyngor Chwaraeon Cymru llwyddodd y clwb i brynu fflyd newydd o 12 caiac, ynghyd â chagŵls, cymhorthion arnofio, helmedau etc. sy’n golygu bod y clwb bellach yn gallu cynnig teithiau ac anturiaethau afon. Wedi derbyn cyllid ychwanegol, cynyddwyd y fflyd o gychod i fwy nag ugain, gyda chymhorthion arnofio newydd eto, deciau chwistrell a rhwyfau.  Hefyd, mae llinellau llusgo ychwanegol, llinellau taflu ac offer ategol arall yn golygu bod gan y clwb offer eithriadol dda. 

Mae’r clwb yn cyfarfod bod dydd Sul yn ystod y tymor, rhwng 7.00pm ac 8.00pm, yng Nghanolfan Hamdden Fairwater yng Nghwmbran, ble rhoddir hyfforddiant pwll dan oruchwyliaeth hyfforddwyr lefel 2 a 3.  Mae hyfforddwyr clwb y Blades, fel rhan o Wasanaeth Ieuenctid Torfaen, yn gofrestredig gydag  AALA (Yr Awdurdod Trwyddedu Gweithgareddau Antur).                             

Am wybodaeth bellach, cysylltwch â Chanolfan Hamdden Fairwater ar 01633 872 811 neu’r clwb ar 01495 758868, neu ewch i’n gwefan  http://www.torfaen.plus.com/blades.htm