Cyfeiriadur Clybiau
-
Enw'r clwb:
Clwb Bowlio Dynion Garndiffaith
Gweithgareddau:
Bowlio
Aelodaeth:
Byddar / Trwm Eich Clyw, Anabledd Dysgu, Anabledd Corfforol - (Gallu Cerdded/Rhedeg), Amhariad Weledol
- Cyfeiriad Clwb:
-
Welfare Ground
Garndiffaith
NP4 7SN
Bob Price 01495 756995/772020
Amdanom Ni
Rydym yn Glwb Bowlio bychan ond cyfeillgar a ffurfiwyd yn 1926 ac sydd wedi’i leoli yn hen bentref glofaol Garndiffaith ar y Cae Lles, i’r gogledd o Bontypŵl, Torfaen, De Cymru, Y DG. Mae ein haelodaeth yn cynnwys Adran i Ferched, Adran i Ddynion ac Adran Iau. Mae’r lawnt ar y Cae Lles, sydd y tu ôl i Hillcrest a gyferbyn â Severn View. Mae’r Maes Parcio gyferbyn â Severn View, drws nesaf i res o garejys ac i fyny ramp. Mae gennym gyfleusterau bowlio i’r holl grwpiau eu defnyddio, yn arbennig yr ieuenctid a phobl anabl. Drwy gydol yr haf, rydym yn chwarae y tu allan ac, yn y gaeaf, dan do ar ddwy rinc mat byr newydd.
Mae ffi aelodaeth y clwb yn £10 i oedolion a £2 i ieuenctid, ac fe’i hadnewyddir yn flynyddol. Telir y ffïoedd i gyd i’r Ysgrifennydd yn y CCB. Mae’n rhaid sicrhau tocyn tymor gan Mr David Mutlow, ceidwad y tir yn y Lawnt ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen.
Ffïoedd Lawnt CBST ar gyfer 2007 yw £33.35 i Oedolion a £16.40 i Bensiynwyr ac Ieuenctid. Mae’r rhain yn eich galluogi i ddefnyddio holl gyfleusterau Bowlio Lawnt CBST. Ni chaniateir cadeiriau olwyn ar y lawntiau.
Beth ydych ei angen i ddechrau arni·
Yr ateb syml i’r uchod yw – fawr ddim. Os ydych am roi cynnig ar fowlio, ceir dwy ffordd o wneud hynny heb fynd i lawer o gostau. Y cyntaf yw mynd i’ch lawnt fowlio agosaf a thalu am sesiwn. Ni ddylai gostio mwy na swm rhesymol ac am hynny byddwch yn gallu llogi cyfres o fowls. Y cyfan sydd raid i chi ei sicrhau yw eich bod yn gwisgo esgidiau gyda gwadnau llyfn, o wneuthuriad rwber. Fel dewis arall, gallech fynd i’ch Clwb gyda’r un math o esgidiau a gofyn am gael blas ar y gamp. Mae gan y rhan fwyaf o glybiau fowls ymarfer ac aelod sy’n fodlon ymuno â chi er mwyn i chi allu rhoi cynnig arni. Ni fyddai disgwyl i chi ymuno na dim a byddent yn falch o’ch gweld. Byddai hefyd yn gyfle i chi gwrdd â rhai o’r aelodau a gweld a fyddech yn hoffi ymuno yn y dyfodol. Mae bowlwyr Garndiffaith yn griw cyfeillgar iawn.
Felly a ydych wedi penderfynu ei fod ar eich cyfer chi?
Os felly, y cam nesaf yw penderfynu gyda pha Glwb ydych chi am ymuno a chwblhau ffurflen gais. Nid dim ond chwarae bowls fyddwch chi mewn clwb bowlio, mae llawer mwy iddo na hynny ac mae’n bwysig eich bod yn teimlo’n gyfforddus gyda’r aelodau. Wedi’r cyfan, byddwch yn treulio llawer o amser yn eu cwmni.
Hanfodion Sylfaenol
Er mwyn dechrau arni’n iawn, byddwch angen eich bowls eich hun, nid rhai newydd o angenrheidrwydd, a dillad hamdden, yn unol â rheolau’r Clwb. Crys neu flows wen, a throwsus neu sgert lwyd yw’r wisg fel rheol, ac esgidiau bowlio arbenigol wrth gwrs. O gymryd yn ganiataol y byddwch yn prynu bowls ail-law, gallwch ddisgwyl talu tua £120 i gyd am ddillad ac offer. Yna bydd raid i chi dalu ffïoedd y Clwb yn eich blwyddyn gyntaf a ffïoedd y Lawnt, sef rhyw £30 arall mae’n bur debyg. Mae hwn yn rhoi syniad i chi o faint fydd raid i chi ei dalu ar y dechrau.
Am wybodaeth bellach
Cysylltwch â’r Ysgrifennydd, Bob Price, ffôn 01495 756995/772020 neu e-bost bob.price@webster.uk.net|
Am ragor o wybodaeth, ewch i’n gwefan
http://www.webster.uk.net/SportsAndLeisure/Bowls/GarndiffaithBowlsClwb/Welcome.aspx