Cyfeiriadur Clybiau
-
Enw'r clwb:
Pêl Fasged Cadair Olwyn – Celtiaid Caerdydd
Gweithgareddau:
Pêl Fasged, Wheelchair Basketball
Aelodaeth:
Parlys Serebral, Defnyddwyr Cadeiriau Olwyn Ymarferol, Unrhyw Anableddau, Anabledd Corfforol - (Gallu Cerdded/Rhedeg)
- Cyfeiriad Clwb:
-
Coleg Glan Hafren, Trowbridge Site
Trowbridge Road, Trowbridge
Cardiff
02920 873935 / 07792 759899
j.coates@cardiff.gov.uk
Mae’r clwb hwn yn darparu ar gyfer plant ac oedolion ac mae ganddo fwy nag 20 o aelodau. Mae sesiynau hyfforddi’r clwb ar ddyddiau Iau am 6.30pm a rhai Sadyrnau o 10am ymlaen. Mae gan y clwb dimau yn y Gynghrair Genedlaethol a chwaraewyr cymdeithasol sydd ond yn chwarae am hwyl. Mae gan y clwb amrywiaeth eang o gadeiriau chwaraeon sydd ar gael ar gais i’r chwaraewyr eu defnyddio.
Nid oes raid i chi fod yn ddefnyddiwr cadair olwyn i gymryd rhan yn y gamp hon. Mae croeso i unrhyw un sy’n fodlon defnyddio cadair olwyn chwarae, yn cynnwys chwaraewyr heb anabledd. Mae’r clwb yn darparu ar gyfer pobl rhwng 7 a 70 oed! Mae dynion a merched gydag anableddau amrywiol yn chwarae, a chwaraewyr heb anabledd.
Mae gan y clwb ddau dîm yn y Gynghrair, un yn adran 3 ac un yn yr Adran Ddatblygu. Mae croeso i gefnogwyr yn y gemau bob amser ac mae’r mynediad i’r gemau cartref am ddim.
Am restr lawn o’r gemau sydd i’w chwarae gan y ddau dîm, gweler y rhestri isod neu ewch i’r wefan am y canlyniadau diweddaraf i gyd. Am wybodaeth bellach am y clwb, ewch i’r wefan: www.cardiffwheelchairbasketball.co.uk
NEWYDDION Y CLWB – Gemau Cynghrair
Mae gemau 2008 fel a ganlyn. Byddem wrth ein bodd pe baech yn cefnogi ein gemau. Mae’r mynediad yn rhad ac am ddim i bawb.
ADRAN 3 – GEMAU CARTREF
Coleg Glan Hafren, Trowbridge, Caerdydd
Sul Chwefror 17eg v Force 12pm
Sul Mawrth 2il v Marvels 2pm
Sadwrn Mawrth 8fed v Tigers 12pm
Sul Mawrth 16eg v Harriers 1pm
Sadwrn Ebrill 12fed v Tornados 3pm
YR ADRAN DDATBLYGU – GEMAU CARTREF
Coleg Glan Hafren, Trowbridge, Caerdydd
Sul Ebrill 27ain
Twrnament 3 thîm – Y Celtiaid, y Crusaders a’r Spiders. Y Gemau’n dechrau am 11am.