Chwaraeon
Boccia
Dyma gyflwyniad i'r gamp o Boccia.
Yn cael ei sillafu fel B-O-C-C-I-A – ond ei yngan fel "Botcha", mae hon yn gamp a drefnir ledled y byd gan CP-ISRA, sef Cymdeithas Chwaraeon a Hamdden Ryngwladol Parlys yr Ymennydd, a sefydlwyd yn 1978. Mae CP Sport yn sefydliad elusennol cenedlaethol yn Nottingham a’i amcan yw darparu cyfleoedd chwaraeon ar gyfer pobl gyda pharlys yr ymennydd. Cyflwynwyd Boccia i’r DG ar ddechrau’r 1980au.
Credir bod y gêm yn hanu o Roeg, gyda’r cystadleuwyr yn taflu cerrig mawr at darged carreg. Pan ddaeth i’r DG, roedd boccia wedi’i chynllunio fel camp ar gyfer y rhai gyda pharlys yr ymennydd difrifol yn unig. Bellach mae wedi datblygu i fod yn gêm a chwaraeir gan sawl carfan mewn cymdeithas – o lefel hamdden i gystadlaethau Paralympaidd dwys. Penderfynir ar reolau gan CP-ISRA ac fe’u hadolygir bob pedair blynedd, yn union wedi’r Gemau Paralympaidd fel rheol.
Ar gyfer y cystadleuwyr elitaidd yn chwarae ar lefel ryngwladol, mae’r byd Boccia’n dilyn cylch o bedair blynedd. Mae pob blwyddyn yn cynnwys cystadleuaeth ryngwladol, ac ym mlwyddyn 1 gwelir y Pencampwriaethau Ewropeaidd, yna Pencampwriaethau’r Byd ym mlwyddyn 2, wedyn daw Cwpan y Byd ac ym mlwyddyn olaf y cylch mae’r Gemau Paralympaidd yn hoelio ein sylw.
Amcan y gêm yw taflu cyfres o beli lliw a’u lleoli’n nes at bêl ‘farcio’ wen na rhai eich gwrthwynebydd. Mae’r bêl hon yn cael ei dilyn gan y ‘jac’. Felly mae’r gêm yn debyg o ran cyd-destun i Fowlio, Petanque neu Boules Ffrengig hyd yn oed. Gellir chwarae’r gêm yn unigol (un v un gan ddefnyddio 6 phêl yr un), mewn parau (dau v dau gan ddefnyddio 3 pêl yr un) neu fel gweithgaredd tîm (tri v tri gan ddefnyddio 2 bêl yr un).
Pam mae’n arbennig o addas ar gyfer pobl gydag Anabledd' ?
Mae’n gamp ddigyffwrdd, a reolir gan darged, ac mae’n dibynnu ar sgil a rheolaeth yn hytrach na maint, cryfder neu gyflymdra. Dyna pam ei bod yn addas ar gyfer y rhai gyda neu heb anabledd. Un ffactor arall sy’n bwysig i apêl Boccia yw bod y chwaraewyr yn gallu chwarae gêm gystadleuol mewn ychydig funudau – heb fod angen gwybodaeth, sgil nac offer arbenigol. Mae’n rhaid i bob cystadleuydd anfon y peli ar eu taith a gall hyn gynnwys taflu, rholio neu hyd yn oed gicio’r peli i’r man chwarae.
Ar gyfer y rhai mewn grwpiau neu ddosbarthiadau arbennig, y byddwn yn cyfeirio atynt yn nes ymlaen, ceir opsiwn, os nad ydynt yn gallu taflu neu gicio’r bêl, i ddefnyddio’r hyn a elwir yn ‘ddyfais cynorthwyol’. Gelwir dyfeisiadau o’r fath yn ‘rampiau’ neu ‘lithren’. Ar gyfer y rhai nad ydynt yn gallu rhyddhau pêl i lawr llithren gyda’u dwylo, gallant ddefnyddio ‘pwyntiwr pen’. Mae hyn yn galluogi athletwyr gydag anabledd difrifol i ryddhau pêl drwy ddefnyddio symudiad eu pen.
Does dim dau chwaraewr yn anfon pêl mewn ffordd yn union yr un fath. Ceir ffyrdd amrywiol o anfon pêl, yn cynnwys: defnyddio dyfais cynorthwyol neu lithren, gyda thafliad ‘arferol’, drwy daflu dan y fraich, drwy daflu dan y fraich gyda throelli ôl, gan ryddhau uwch uchder y pen, rholio’r bêl ar hyd y llawr a defnyddio’r droed i gicio’r bêl i mewn i’r chwarae.
MAE’N RHAID chwarae’r gêm ar eich eistedd, sy’n ei gwneud yn ddefnyddiol i’r rhai mewn cadeiriau olwyn maniwal neu fodur. Mae peli o ansawdd da’n cael eu gwneud o ledr synthetig a’u llenwi gyda gronynnau plastig, sy’n eu gwneud yn hydwyth ac yn llawer haws gafael ynddynt a haws i’w rheoli.
Pa offer ydych chi ei angen ?
I ddechrau, cyfres o 13 o beli Boccia, 6 o rai coch, 6 o rai glas ac 1 bêl wen, sef y jac. Hefyd rydych angen gofod chwarae ac, ar gyfer Boccia cystadleuol, mae’r gofod hwn yn debyg o ran maint i gwrt badminton, sef 12.5 wrth 6 metr. Mae’n rhaid i’r arwyneb fod yn wastad a llyfn, ac fel rheol mae’n llawr pren, teils neu flociau. Fodd bynnag, nid yw’n amhosibl chwarae’r gêm ar garped! Fel rheol, chwaraeir y gêm dan do ond gellir ei chwarae y tu allan gan ddefnyddio cyfres o beli sydd wedi’u gwneud yn benodol ar gyfer y diben hwn.
Un o’r pethau da am y gêm hon yw bod modd addasu maint y cwrt i gyfateb i bob amgylchiad, a gall unrhyw ofod, yn ystafell ffrynt, neuadd eglwys, ffreutur, campfa neu ganolfan hamdden, fod yn lleoliad addas. Yn yr un modd, nid oes angen cyfres o byst gôl, rhwydi na chae glaswellt maint Wembley. Nid oes angen unrhyw ‘git’ arbenigol chwaith, ond mae’n syniad da gwisgo dillad cyfforddus a llac.
Mae’r gêm yn dod yn fwy a mwy poblogaidd ledled Cymru, gydag amrywiaeth eang o gyfleoedd cystadlu ar gael. Mae CP Sport England & Wales hefyd yn darparu manylion defnyddiol am Boccia, felly ewch am dro i
www.cpsport.org/boccia/index.shtml i ganfod gwybodaeth bellach.
« Yn ôl i rhestru chwaraeon